Update Mis Medi! | September Update

Update Mis Medi! | September Update

Helo! Bach o update ar beth ‘yn ni wedi bod yn gweithio arno dros yr wythnosau a misoedd diwethaf… a beth i ddisgwyl wrthym yn y dyfodol agos!

Ni’n edrych i updatio’n gwefan ni! Mae’r un sydd gyda’n ni’n iawn, ond ni’n edrych i gyflwyno rhywbeth mwy ‘high quality’ i gynrychioli’r brand! Bydd ‘function’ newydd bydd yn galluogi chi i brynu bundles canhwyllau a melts heb orfod defnyddio’n discount cods! Mae Llŷr yn gwneud y wefan ei hun ac yn gobeithio lansio’r wefan newydd mis nesa!

Comisiynwyd Stephen Davies, fideograffydd lleol, i wneud fideo byr ar gyfer ein gwefan. Mae’r fideo’n plethu rhwng ein canhwyllau a ‘drone footage’ o ardaloedd gwahanol! Mae’n edrych yn bril ac ‘yn ni’n edrych ‘mlaen i rannu hwn gyda chi yn fuan; falle bo’ chi wedi sylwi ar ‘sneak peak’ bach ar ein Instagram!

Ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda chwmni newydd i wneud bocsys arbennig i ni. Ar hyn o bryd mae’n cymryd AGES i ni bacio’r archebion (gan fod angen pacio pob cannwyll mewn bubble wrap yn unigol), ac mae un neu ddau archeb wedi torri yn y post! Mae’r bocsys newydd yn fwy dibynadwy, mwy moethus ac yn sicrhau gwell profiad i'r cwsmer. Ni’n aros am brototeip, ac os mae pob peth yn iawn ni'n gobeithio gosod archeb fel bod y bocsys newydd yn barod diwedd Hydref.

Ni ‘di dechrau stocio siopau gan gynnwys Oriel Tonnau, Gerddi Aberglesni, a’r Cwtch ym Mhontyberem. Mae’r canhwyllau wedi bod yn gwerthu’n dda, felly ‘yn ni’n gobeithio gwerthu i fwy o siopau yn y dyfodol. Dwlen ni gael un siop ym mhob un o’n lleoliadau ni, felly os oes gyda chi unrhyw awgrymiadau, rhowch wybod!

Rydym wrthi’n paratoi ar gyfer y Nadolig ac wedi bwcio cwpwl o farchnadoedd yn barod! Mae sawl peth bach arall yn digwydd yn y cefndir, ond y prif beth i wneud dros yr wythnosau nesa yw adeiladu stoc yn barod i Nadolig!

I ychwynegu i’r cyfan, mae Llŷr wedi dechrau cwrs ‘surveying’ rhan amser ddoe - felly mae lot ar ein plât ni rhwng nawr a ‘Dolig!!

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth!

Llŷr a Llinos

.............................................

Hello! Quick update on what we’ve been working on over the last few weeks and months… and what to expect in the near future!

We’re updating our website! The one we currently use functions well, however we want something ‘classier’ to represent our brand! We hope to make it live soon!

We’ve commissioned Stephen Davies, a local videographer to make a short video for the website. The video flows from drone footage of spectacular Welsh locations to our scented candles. The video looks great and we can’t wait to share it with you! Maybe you’ve spotted a sneak peak on our website?

We’re also working with a cardboard box supplier to provide bespoke boxes. Our current boxes take AGES to pack as we need to wrap each candle individually. We’ve had a few glasses smash in the post too which isn’t ideal!  We want our boxes to be more dependable, classier and offer a better experience.  We’re waiting for a prototype and if all is well, we’re hoping to get the new boxes in October.

We’ve started stocking a few shops including Oriel Tonnau, Gerddi Aberglesni and the Cwtch in Bontyberem. The candles are selling really well so we hope to expand to a few more shops. We’d love to have one shop in every location so if you have any recommendations please get in touch!

We’re busy preparing for Christmas and managed to secure a couple of Markets already! We’ll reveal more information closer to the time but we’re super excited for it!

The main task for the next few weeks is to build a stock of candles, so better get cracking!

Thanks again for your support so far! It really does mean the world to us!


Leave a comment