Gofal Canhwyllau

Gofal Canhwyllau

Gofal Canhwyllau

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch cannwyll mae yna ychydig o gamau y dylech eu dilyn. Bydd y camau yma’n sicrhau ei fod yn para'n hirach ac yn arogli'n well!

  1. Cadwch hyd eich wic i ¼ modfedd ac wedi'i ganoli yn y gannwyll. Bydd y gannwyll yn cael ei thori i'r maint cywir pan mae’n cyrraedd; fodd bynnag, gall hyd y wic amrywio ar ôl y llosg cyntaf. Mae bob ty yn wahanol ac mae amodau megus tymheredd yr ystafell, pa mor hir rydych chi'n llosgi'r gannwyll ac ati yn gallu effeithio maint y wic. Os yw'n hirach na ¼ modfedd, trimiwch y wic cyn y tro nesaf y byddwch chi'n ei llosgi.
  2. Pan fyddwch chi'n llosgi'ch cannwyll am y tro cyntaf, dylech ganiatáu i'ch cannwyll sefydlu pwll toddi llawn (h.y. dylai'r pwll o gwyr gyrraedd ochr y gwydr) cyn ei ddiffodd. Gall hyn gymryd tua thair neu bedair awr neu felly. Os byddwch yn diffodd eich cannwyll cyn iddi gyrraedd ei phwll toddi llawn, bydd y cwyr yn twnelu i lawr craidd y gannwyll ac yn debygol i barhau i wneud hyn ar bob llosgiad dilynol, gan arwain at llwyth o gwyr ar ymylon y gwydr.
  3. Awgrymwn y dylid cyfyngu'r holl amseroedd llosgi dilynol i dim fwy na dwy i dair awr ar y tro.
  4. Gall llosgi am gyfnod rhy hir golygu bo’r wic symud, neu gogwyddo. Mae cwyr soi yn feddalach na chwyrau paraffin felly gall y wic fod yn dueddol o symud ychydig felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei thynnu yn ôl i ganol y gannwyll ar ôl ei diffodd.

 Awgrymiadau eraill

  • Peidiwch byth â gadael cannwyll sy'n llosgi heb oruchwyliaeth.
  • Storiwch eich cannwyll allan o olau uniongyrchol y haul.
  • Llosgwch eich cannwyll ar arwynebau sefydlog, gwastad sy'n gwrthsefyll gwres.
  • Peidiwch a llosgi'ch cannwyll lle mae drafft.
  • Cadwch eich cannwyll yn rhydd o fatsis neu gweddillion y wic ar ol tori.
  • Cadwch losgi canhwyllau oddi wrth blant ac anifeiliaid anwes.
  • Peidiwch byth â gorchuddio cannwyll sy'n llosgi.

Leave a comment