Diwrnod Santes Dwynwen!!

Diwrnod Santes Dwynwen!!
Anrheg Santes Dwynwen - Cannwyll Soy Ynys Llanddwyn Valentines Gift - Llanddwyn Island Gift

25ain Ionawr - Diwrnod Santes Dwynwen

Dwynwen oedd yr harddaf o 24 merch Brychan Brycheiniog, Brenin de Cymru (Brycheiniog) o'r 5ed Ganrif.

Ddaru Dwynwen gwrdd a chwympo mewn cariad â thywysog o'r enw Maelon Dyfodrull. Nid oedd y Brenin Brychan yn hoff o Maelon a gwrthododd roi ei ganiatâd iddynt briodi. Erfyniodd Maelon, fel y gwnaeth Dwynwen, ond wnaeth Brychan digio, a gorfodwyd y tywysog i adael.

Tra roedd Dwynwen yn cysgu, breuddwydiodd y daeth ysbryd ati a dweud wrthi na fyddai Maelon yn ei phoeni ymhellach oherwydd ei fod wedi cael ei droi’n floc o rew. Yna rhoddodd yr ysbryd dri dymuniad iddi. Ei chyntaf oedd i Maelon gael ei ddadmer. Ei hail oedd i wir gariad gael ei amddiffyn yn ei henw hi bob amser. Ei thrydydd oedd na fyddai hi byth eto yn cwympo mewn cariad, nac yn priodi. Daeth y tri dymuniad yn wir.

Gadawodd Dwynwen ei chartref i atal ei thad rhag gwneud iddi briodi am bŵer neu drachwant. Daeth yn lleian a theithio Cymru, gan sefydlu eglwysi a gweddïo dros y rheini oedd yn gythryblus mewn cariad. Ei stop olaf oedd Ynys Llanddwyn, oddi ar arfordir Ynys Môn, lle gellir gweld olion Eglwys Dwynwen heddiw.

Os nad ydych chi wedi bod, mae'n werth ymweld (mewn byd ôl-Covid wrth gwrs!), ond tan hynny, beth am roi cannwyll i rywun rydych chi'n caru i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.

 

25th January – Diwrnod Santes Dwynwen

Dwynwen was said to be the most beautiful and spirited of the 24 daughters of Brychan Brycheiniog, a 5th Century King of south Wales (Brecon).

Dwynwen is said to have met and fallen in love with a northern prince called Maelon Dyfodrull. King Brychan disliked Maelon and refused to give his permission for them to marry. Maelon begged, as did Dwynwen, but Brychan would not relent and the prince was forced to leave.

Whilst Dwynwen slept, she dreamt a spirit came to her and told her Maelon wouldn’t trouble her further because he’d been turned into a block of ice. The sprit then granted her three wishes. Her first was for Maelon to be thawed. Her second was for true love to always be protected in her name. The third was that she would never again fall in love, nor marry. All three wishes came true.

Dwynwen left home to prevent her father from making her marry for power or greed. She became a nun and travelled Wales, setting up churches and praying for those who were troubled in love. Her final stop was the island of Llanddwyn, off the coast of Anglesey, where the remains of Dwynwen’s Church can be seen today.

If you haven’t been to Llanddwyn, it’s worth the drive (in a post Covid world of course!), but until then, treat somebody you love with a welsh, soy candle, hand poured by a small independent company and join in the motion of celebrating Santes Dwynwen, Wales’ very own patron saint of lovers. Milltir Sgwar candles really do make the perfect welsh gift. 


Leave a comment